Cyfle cyffrous yng Nghastell-nedd Port Talbot

*Yn amodol ar Gymeradwyaeth CBS Castell-nedd Port Talbot*

Ysgol Gynradd Yr Eglwys yng Nghymru, Bryncoch

Mae Timau’r Blynyddoedd Cynar a’r Cynnig Gofal Plant Castell-nedd Port Talbot mewn partneriaeth  ag Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru, Bryncoch, yn awyddus iawn i gael mynegiannau o ddiddordeb gan  ddarparydd gofal plant profiadol i redeg Clwb Ôl-ysgol yn yr ysgol.

Gellir cofrestru’r ystafell gofal plant am tua. 30 Plant 3-11 oed, gellir datgelu costau rhent manwl sy’n daladwy yn unol â chytundeb prydlesu ar gais.

Bydd disgwyl i’r darparwr gofal plant llwyddiannus:

Ddarparu Gofal Plant o ansawdd uchel

Bod wedi’i cofrestru ag AGC

Darparu lleoedd Cynnig Gofal Plant ac O Gam i Gam

Gweithio’n agos gyda’r ysgol a’r Llywodraethwyr

Bod yn cynnig darpariaeth ar ôl ysgol a gwyliau

Bod yn ymrwymedig i ddechrau cyflwyno o Ionawr/Chwefror 2024

Rydym yn chwilio am ddarparwyr a all ddangos bod ganddynt:

Brofiad o redeg darpariaethau gofal plant tebyg

Adroddiadau arolygu AGC boddhaol neu uwch

Cyfrifon ariannol cadarn

Ethos o ddarparu gofal plant safonol, hygyrch a fforddiadwy

Strwythur rheoli cryf ac effeithiol

Ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth i ddatblygu gofal plant bro gyfan.

Am unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â Michelle Jenkins – Swyddog Datblygu Gofal Plant Cynorthwyol y Blynyddoedd Cynnar m.jenkins4@npt.gov.uk

Gellir e-bostio mynegiannnau at Michelle Jenkins – Swyddog Datblygu Gofal Plant Cynorthwyol y Blynyddoedd Cynnar m.jenkins4@npt.gov.uk

Y dyddiad i geisiadau yw (21.03.2024)