06.10.2023 |
Diwrnodau Ymwybyddiaeth
Diwrnod Iechyd Meddyliol Byd-eang Hydref 10fed
Bob blwyddyn byddwn yn dathlu Diwrnod Iechyd Meddyliol ar Hydref 10. Y thema ar gyfer 2023, a osodwyd gan y Sefydliad Byd-eang dros Iechyd Meddyliol, yw ‘Mae Iechyd Meddyliol yn hawl ddynol fyd-eang’.
Mae Diwrnod Iechyd Meddyliol ynghylch codi ymwybyddiaeth o iechyd meddyliol a gyrru yn ei flaen newid cadarnhaol i iechyd meddyliol pawb.
Y mae hefyd yn gyfle i siarad am iechyd meddyliol, sut fod angen i ni ofalu amdano, a pha mor bwysig ydyw i gael help os ydych yn ei chael hi’n anodd.
Dowch at eich gilydd gyda ffrindiau, teuluoedd neu gydweithwyr ar y Diwrnod Iechyd Meddyliol yma, drwy gynnal Te a Chlonc!
Diwrnod Shwmae Su’mae – Hydref 15fed 2023
Mae Diwrnod Shwmae Su’mae yn ddathliad blynyddol o’r Iaith Gymraeg; mae’n annog pobl i roi cynnig ar siarad Cymraeg gyda’u ffrindiau.
Hydref 11eg 2023
Nodir yn fyd-eang Ddiwrnod Rhyngwladol y Plentyn sy’n Ferch 2023, sef diwrnod sy’n tynnu sylw at yr heriau a wynebir gan ferched o gwmpas y byd.
Hydref 14 – Hydref 20
Mae Wythnos Bobi Genedlaethol 2023 yn ddathliad blynyddol sy’n annog pobl o bob oed a lefelau sgil i gofleidio’r mwynhad a geir o bobi.
Gŵyl Dysgu fel Teulu – Hydref 15-30
Mae’r Ŵyl Dysgu Teuluol yn ddathliad blynyddol o lawenydd dysgu gyda’n gilydd fel teulu. Mae’r ŵyl hon yn annog teuluoedd i archwilio, darganfod, a dysgu pethau newydd trwy ystod eang o weithgareddau a phrofiadau addysgol. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd bondio teuluol trwy ddysgu ar y cyd ac yn darparu cyfleoedd i deuluoedd gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol a chyfoethog. Mae’r Ŵyl Dysgu fel Teulu yn hybu’r syniad y gall dysgu fod yn brofiad hwyliog a chydweithredol i bawb yn y teulu.