Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS wedi ymateb i’r argymhellion yn adroddiad grŵp llywio’r Adolygiad Gweinidogol o Chwarae.

Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd y Dirprwy Weinidog:

‘Mae argymhellion yr adolygiad yn eang a bydd angen ystyriaeth polisi trawslywodraethol a chydweithio parhaus gyda’r sector. Rwyf wedi nodi yn fy ymateb i bob argymhelliad, y camau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd yn eu herbyn. Gellir gweithredu rhai o’r argymhellion hyn yn gyflym, bydd eraill yn cymryd amser. Lle rwyf wedi derbyn argymhelliad mewn egwyddor, byddwn yn dechrau ymgymryd â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â’r argymhellion hyn cyn gynted â phosibl fel y gellir archwilio eu gweithrediad llawn.

Un o’n camau cynnar fydd gweithio gyda’r sector i adolygu’r canllawiau statudol ar gyfer awdurdodau lleol, ynghyd â phecyn Cymorth Asesu Digonolrwydd Chwarae a’r canllawiau ategol. Byddwn yn parhau i ddiogelu a hyrwyddo gweithgareddau chwareus ac yn parhau i adeiladu ar y cynnydd a wnaed yng Nghymru, gan fod yn wlad chwarae-gyfeillgar sy’n rhoi cyfle a rhyddid i blant a phobl ifanc chwarae.’

Mae Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs yn croesawu cyhoeddi’r Adolygiad Gweinidogol o Chwarae – Ymateb i argymhellion y Grŵp Llywio.

Rydym yn edrych ymlaen at archwilio, gyda Llywodraeth Cymru, y cerrig milltir a awgrymir o’r argymhellion gan sicrhau bod newidiadau yn cefnogi’r sector Gofal Plant All-Ysgol i barhau i gefnogi Cymru lle mae plant yn chwarae, a chymunedau’n ffynnu.

Jane O’Toole | Prif Swyddog Gweithredol | Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs