Cyhoeddi canllawiau i Ysgolion Bro

Canllawiau i Ysgolion Bro: Datblygu trefniadau ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned mewn Ysgolion Bro

Mae gwaith ymchwil yn dangos, os yw ysgolion am chwarae eu rhan lawn mewn lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad, mae angen ymgysylltu cryf â’r gymuned ehangach. Mae llawer o ysgolion yn gweithio’n effeithiol gyda’n Cymuned Gofal Plant All-Ysgol, gan gyfeirio at wasanaethau Clybiau All-Ysgol,  cefnogi pwyllgorau rheoli a chynnig y defnydd o gyfleusterau’r ysgol. Gwyddom y gall clybiau helpu teuluoedd i wella eu hamgylchiadau, gan chwarae rhan hanfodol wrth fynd i’r afael â thlodi ac anghydraddoldeb yn ogystal â helpu plant i ddatblygu sgiliau bywyd hanfodol.

Datblygwyd y canllawiau hyn i gefnogi ysgolion a rhanddeiliaid allweddol eraill i ddatblygu’r ffordd y maen nhw’n meithrin cysylltiadau yn eu cymunedau fel rhan o ddull gweithredu Ysgolion Bro. Y mae hefyd ffeithlun, sy’n rhoi trosolwg o  Ysgolion Bro. Mae hwn yn ychwanegu at y  canllawiau Ysgolion Bro a’r Arweiniad ar ddatblygu trefniadau  ymgysylltu â theuluoedd mewn Ysgolion Bro a gyhoeddwyd gennym yn flaenorol.