28.10.2022 |
Lansio adolygiad o’r Safonau Dysgu a Datblygu Diogelu Cenedlaethol, Gweithdrefnau Diogelu Cymru
Ar Dachwedd 14 bydd Julie Morgan AS yn cyflwyno lansiad Safonau Dysgu a Datblygu Diogelu Cenedlaethol cyntaf Cymru.
Yn ymuno â’r Dirprwy Weinidog bydd panel o arbenigwyr ar ddiogelu o bob rhan o Gymru. Bydd y digwyddiad lansio awr-o-hyd yn dechrau am 10yb drwy Teams Live, ac yn cael ei gadeirio gan Jane Randall o Fwrdd Diogelu Annibynol Cenedlaethol Cymru, ynghyd ag arweinwyr yn y maes Diogelu o’r sectorau statudol a gwirfoddol. Byddant yn trafod y safonau diogelu er mwyn gosod i lawr y disgwyliadau wrth symud ymlaen, ac i wella arferion.
Cliciwch yma i archebu’ch lle ar gyfer y digwyddiad.