09.12.2022 |
Mae rheoliadau newydd bellach ar waith yng Nghymru, nid yw Rheoliadau 2010 bellach mewn grym.
Mae’r Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022 mewn grym ers 06.12.22.
Mae’r rheoliadau newydd hyn bellach yn gymwys yng Nghymru, ac nid yw Rheoliadau 2010 mewn grym mwyach. Diben y rheoliadau hyn yw helpu i atal darparwyr gofal plant cofrestredig sy’n anaddas, a darpar ddarparwyr gofal plant sy’n anaddas, rhag gofalu am blant. Mae’r rheoliadau newydd hyn yn helpu i sicrhau bod y risg o niwed i blant yn cael ei leihau a bod mesurau diogelu pwysig ar waith.
Bu Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ar fersiwn drafft o’r rheoliadau rhwng 31 Mawrth 2022 a 23 Mehefin 2022, ac fe gafodd crynodeb o’r ymatebion ei rannu a oedd yn croesawu’r newidiadau a gynigiwyd i raddau helaeth.
Yn wreiddiol, bwriad Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022 oedd disodli rheoliadau 2010. Ond, oherwydd rhesymau drafftio technegol, mae’r rhain hefyd wedi cael eu disodli gan Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022.
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi rhoi gwybod i’r holl ddarparwyr cofrestredig yng Nghymru am y rheoliadau hyn sy’n dod i rym. A byddant yn cyhoeddi canllawiau diwygiedig i gefnogi Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022, er mwyn sicrhau bod darparwyr gofal plant cofrestredig, neu’r rhai sy’n bwriadu darparu gofal plant, yn glir ynghylch eu rhwymedigaethau cyfreithiol.