Y Cynnig Gofal Plant i Gymru mewn Clybiau Gwyliau

Ydych chi’n darparu Gofal Plant Gwyliau i blant sy’n cynnwys plant 3-4 oed? Ydych chi wedi cofrestru ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru?

Peidiwch â cholli’r cyfle i roi adborth i Lywodraeth Cymru ar sut mae costau cynyddol eich darpariaeth wedi effeithio ar eich busnes gofal plant, gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau’r arolwg ar incwm a gwariant darparwyr gofal plant: Incwm a gwariant darparwyr gofal plant (smartsurvey) .co.uk)

Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru, a wyddech chi y gallech gael cyllid i ddarparu Gofal Plant wedi’i ariannu i blant 3-4 oed teuluoedd cymwys?

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru i sicrhau eich bod yn gallu cefnogi teuluoedd i fanteisio ar y Cynnig Gofal Plant i Gymru.

Ddarparwyr, mewngofnodwch i’ch cyfrif Cynnig Gofal Plant i Gymru | LLYW.CYMRU

Mae Llywodraeth Cymru am ddeall mwy am incwm a chostau rhedeg busnes gofal plant er mwyn adolygu a llywio penderfyniadau, megis y cyfraddau fesul awr y maent yn eu talu am raglenni a ariennir (e.e. y Cynnig Gofal Plant) a mathau eraill o gymorth a gynigir i ddarparwyr.

Mae’n bwysig bod amrywiaeth o ddarparwyr gan gynnwys Clybiau Gofal Plant All-Ysgol yn ymateb i’r arolwg hwn i ddylanwadu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru ar e.e. y cyfraddau a delir i ddarparwyr yn y dyfodol.

 

Os hoffech gael cymorth i gwblhau’r arolwg, gallwn helpu.  Cofiwch gysylltu â ni.

 

Cwblhewch yr arolwg hwn heddiw a sicrhewch fod eich llais yn cael ei glywed Incwm a gwariant darparwyr gofal plant (smartsurvey) .co.uk)