18.11.2022 |
Wythnos Hinsawdd Cymru 2022 (21-25 Tachwedd)
Mae Wythnos Hinsawdd Cymru yn cynnig cyfle blynyddol i gynnal sgwrs genedlaethol ynghylch y newid yn yr hinsawdd. Mae’r wythnos yn archwilio’r gweithredu brys sydd ei angen i leihau allyriadau carbon a magu gwytnwch gwell i effeithiau newid yn yr hinsawdd yr ydym eisoes yn eu gweld ledled Cymru.
Mae Wythnos Hinsawdd Cymru 2022 yn ymwneud â dewisiadau yn seiliedig ar yr hinsawdd a’r cyfraniad pwysig y gall y cyhoedd ei wneud i helpu i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
Mae digwyddiad eleni yn cyd-fynd ag ymgynghoriad ar fersiwn drafft newydd o’r ‘Strategaeth ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd a Gweithredu ar Newid Hinsawdd (2022-2026)’. Bydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y Strategaeth hon a heriau deuol yr argyfwng hinsawdd a chostau byw, y gweithredu brys a’r cyd-fuddion sy’n gysylltiedig â’r ffordd yr ydym ni i gyd yn newid y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau. Bydd sesiynau yn ymdrin â rôl polisïau a’r rhaglenni hinsawdd o ran helpu i ddarparu’r gefnogaeth a’r amodau cywir er mwyn galluogi pobl i weithredu. Yn ogystal, bydd pwysigrwydd cyfiawnder cymdeithasol yn thema ganolog, a’r modd y mae newid yn yr hinsawdd yn cynnig cyfle i ddatrys rhai o’r anghydraddoldebau sydd wedi’u hymgorffori yn ein cymdeithas.
Peidiwch â cholli cyfle i wneud gwahaniaeth, ymunwch â’r drafodaeth drwy gofrestru yn llyw.cymru/wythnos-hinsawdd-cymru