12.04.2024 |
Adolygiad Llywodraeth Cymru o’r SGC – rhowch eich barn!!
Gweithdai: Adolygiad o’r Gorchymyn Eithriadau a’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC)
Dydd Mercher Mai’r 15fed (Darparwyr sy’n gofrestredig ag AGC)
Dydd Iau Mai’r 16eg (Darparwyr anghofrestredig)
Ar-lein 18:30-20:00
Mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i gasglu ynghyd safbwyntiau amrediad eang o ddarparwyr i fod o gymorth i gyfrannu at yr adolygiad ac unrhyw newidiadau posibl i’r Gorchymyn Eithriadau (yr amgylchiadau lle nad yw’n ofynnol cofrestru ag AGC) a’r SGC.
Mae’r gweithdai’n gyfle i ddeall sut mae’r Gorchymyn Eithriadau a’r SGC yn gweithio’n ymarferol. Mae croeso i ddarparwyr siarad yn agored a rhannu eu safbwyntiau a’u barnau.
Archebwch nawr https://www.clybiauplantcymru.org/cy/all-training-and-events/