Mae Llywodraeth Cymru am eich barn ar y calendr ysgol

Bydd ymgynghoriad yn agor ar 21 Tachwedd ar newid y calendr ysgol fel bod seibiannau’n cael eu lledaenu’n fwy cyfartal. Ni fydd nifer y dyddiau o wyliau ysgol a diwrnodau addysgu yn newid.

Pa effaith, os o gwbl, a allai fod i’ch darpariaeth gofal plant all-ysgol ac i’ch gweithlu?

O dan y cynnig, byddai wythnos yn cael ei chymryd o ddechrau gwyliau’r haf a’i hychwanegu at wyliau mis Hydref. Byddai egwyl o bythefnos yn dechrau ym mis Hydref 2025 a seibiant haf o bum wythnos yn 2026.

Dywed Llywodraeth Cymru fod gwaith ymchwil yn awgrymu bod tymor yr hydref yn flinedig ac yn heriol i ddysgwyr a staff. Hefyd, mae rhai disgyblion, yn enwedig o gefndiroedd difreintiedig yn ariannol, a’r rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn ei chael hi’n anodd dychwelyd i ddysgu ar ôl toriadau hir yr haf.

Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn archwilio newidiadau ychwanegol y gellid eu symud ymlaen yn y dyfodol, ond nid o 2025. Mae’r newidiadau hyn yn cynnwys yr opsiwn o symud ail wythnos o wyliau’r haf a’i ychwanegu at wyliau’r Sulgwyn.

Darllenwch sylwadau pellach gan Weinidog y Gymraeg a Addysg, Aelod Dynodedig a Parentkind  yma.

Gweler y dogfennau ymgynghori yma Strwythur y Flwyddyn Ysgol | LLYW.CYMRU