Yr Addewid Cymraeg

Ydych chi’n awyddus i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn eich lleoliad ond ddim yn gwybod ym mhle i ddechrau?

Yna does dim angen ichi edrych ymhellach na’r Addewid Cymraeg.

Mae’r Addewid Cymraeg yn ffordd i chi ddangos ymrwymiad i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg drwy rannu’r gwaith yn adrannau bychain, hawdd eu trin.

P’un a yw eich lleoliad yn dechrau o’r newydd neu os ydych eisoes yn defnyddio rhywfaint o Gymraeg, mae’r lefelau efydd, arian ac aur yn caniatáu i’ch lleoliad ddefnyddio’r Gymraeg mewn ffordd sy’n briodol i chi, gyda digonedd o help gan ein Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant Iaith Gymraeg.

I roi cychwyn ar siwrnai Gymraeg eich lleoliad, llenwch y ffurflen Mynegiant o Ddiddordeb hon heddiw a bydd ein Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant mewn cysylltiad i’ch arwain a’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.