Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Calan Gaea’ – Dydd Llun Hydref 31 2022  Holidays for Kids: Halloween (ducksters.com) 

Dywedir bod gwreiddiau Calan Gaea’ i’w cael yng Ngŵyl Geltaidd Aeleg, Smahain, a oedd yn cael ei dathlu ddiwedd y tymor cynaeafu. Dros y cyfnod pan ddaeth Cristnogaeth i fod y grefydd fwyaf yn y gwledydd Celtaidd, roedd y dathliad yn cyd-daro â Diwrnod yr Holl saint ar Dachwedd 1af ac fe ddaeth maes o law i gael ei hadnabod fel y dathliad modern, sef Calan Gaea’. Ar Galan Gaea’ mae pobl yn draddodiadol yn eu gwisgoedd ffansi, a’r plant yn aml wrthi’n cynnig ‘tric ta trît’. Mae llawer o weithgareddau i’w gwneud, megis partïon gwisg, bobio falau, coelcerthi, tai bwganod a cherfio pwmpenni.


Y Diwrnod Fegan Byd-eang – Dydd Mawrth Tachwedd 1 2022World Vegan Day on 1 November – celebrating for a good cause – World Vegan Day (vegan-day.org) 

Mae’r Diwrnod Fegan Byd-eang yn dathlu popeth fegan, yn ogystal â hyrwyddo cynaliadwyedd, lles anifeiliaid a’r manteision i iechyd a gysylltir â feganiaeth. Nid yw feganiaid yn bwyta unrhyw gynnyrch anifeiliaid na sgil-gynhyrchion anifeiliaid megis llaeth, cig ac wyau. Mae’r diwrnod yn rhoi cyfle i feganiaid fyfyrio a chyfnewid syniadau â’r sawl nad ydynt yn feganiaid. Beth am roi cynnig ar bryd feganaidd y Dydd Mawrth hwn, a gweld os gallwch chi fod yn fegan?


Noson Tân Gwyllt – Dydd Sadwrn Tachwedd 5  2022 Guy Fawkes and Bonfire Night | TheSchoolRun 

Mae Noson Tân Gwyllt neu Noson Guto Ffowc yn nodi pen-blwydd Cynllwyn Powdwr Gwyn 1605.  Ceisiodd Guto Ffowc, o dan arweinyddiaeth Robert Gatesby a’i gyd-gynllunwyr greu ffrwydrad a fyddai’n chwythu’r Brenin James a Thŷ’r Cyffredin yn ddeilchion. Daliwyd Guto Ffowc a methiant fu’r Cynllun Powdwr Gwn. Gorchymynnodd James 1 y dylid dathlu Tachwedd y 5ed, ac mae tân gwyllt a choelcerthi’n llosgi delw o gorff  Guto Ffowc yn ddathliadau sydd wedi para hyd at heddiw yn y DU.