Diwrnodau Ymwybyddiaeth

Diwrnod Rhyngwladol er Dileu Camwahaniaethu Hiliol – Mawrth 21, 2023

Mae’r Diwrnod Rhyngwladol er Dileu Camwahaniaethu Hiliol yn ddiwrnod a drefnir gan y Cenhedloed Unedig; ei nod yw atal pobl rhag dioddef camwahaniaethu yn eu herbyn oherwydd eu hil.

Cewch wybod mwy yma


Diwrnod Barddoniaeth y Byd – Mawrth 21, 2023

Dathlir Diwrnod Barddoniaeth y Byd i gydnabod y gallu unigryw i greu   barddoniaeth, ac i annog pobl sy’n ddigon creadigol i rannu ciplun o fywyd mewn ffordd farddonol. Y mae hefyd yn rhoi cyfle i ni ailymweld â hoff gerdd o’n plentyndod, bwrw allan atgofion diflas gwers ysgol neu fynd ati i ymchwilio gweithiau cyfredol.

Cewch wybod mwy yma


Dydd Dŵr y Byd 2023 – Mawrth 22 2023

Mae Dydd Dŵr y byd yn ddigwyddiad blynyddol â’r nod o dynnu sylw at bwysigrwydd dŵr ffres, a hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy o’r adnodd hollbwysig hwn. Mae’r diwrnod yn tynnu sylw at y ffaith bod dŵr yn hawl ddynol sylfaenol, ac yn elfen hanfodol o ddatblygu cynaliadwy.

Sut i fod yn rhan o hyn

Dyma rai ffyrdd o fod yn rhan o Ddydd Dŵr y Byd:

  1. Lledaenu ymwybyddiaeth: Rhannwch wybodaeth am Ddydd Dŵr y Byd a phwysigrwydd dŵr ffres â’ch teulu, eich ffrindiau a’ch cydweithwyr.
  2. Gwarchodwch ddŵr: Mabwysiadwch arferion arbed-dŵr, megis cymryd cawodydd byrrach, trwsio lle bydd dŵr yn gollwng, a defnyddio teclynnau dŵr-effeithlon. Mynychu digwyddiadau lleol a chymryd rhan mewn gweithgareddau megis glanhau traethau, ymgyrchoedd gwarchod dŵr ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth.
  3. Rhoddwch i achosion dŵr-berthynol: Cefnogwch sefydliadau sy’n darparu mynediad at ddŵr glân, yn hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy o ddŵr ac yn hyrwyddo polisïau sy’n diogelu adnoddau dŵr.