Dyddiau Ymwybyddiaeth

Ramadan – 22ain o Fawrth – 21ain o Ebrill 2023

Ramadan yw’r enw Arabeg am y nawfed mis yn y calendr Islamaidd ac fe’i hystyrir yn un o’r misoedd mwyaf sanctaidd i Fwslimiaid. Fe’i nodir gan gyfnod o ymprydio ac mae’n disgyn ar ddyddiad gwahanol bob blwyddyn. Eleni dechreuodd Ramadan ar nos Fercher,  Mawrth 22 a bydd yn gorffen ar nos Wener, Ebrill 21. Mae Mwslimiaid yn cael pryd o fwyd, a elwir yn suhoor neu sehri, yn gynnar yn y bore cyn y wawr,ac nid ydynt yn bwyta nac yn yfed eto tan ar ôl machlud haul ar gyfer pryd gyda’r nos, a elwir yn iftar neu fitoor. Dysgwch fwy am Ramadan yma.

Ramadan Mubarak o bawb yn Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs i bawb sy’n dathlu!


Diwrnod Iechyd y Byd – 7fed o Ebrill 2023

Mae Diwrnod Iechyd y Byd yn cael ei ddathlu’n flynyddol ac mae’n nodi pen-blwydd sefydlu Sefydliad Iechyd y Byd ym 1948, sy’n golygu mai eleni yw ei ben-blwydd yn 75! Eleni, y thema yw Iechyd i Bawb ac mae’n gyfle i edrych yn ôl ar lwyddiannau iechyd cyhoeddus sydd wedi gwella ansawdd bywyd ers 1948. Darllenwch fwy yma.


Sul y Pasg – 9fed o Ebrill 2023

Mae dyddiad Sul y Pasg yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac yn cael ei ddathlu ar y Sul cyntaf ar ôl y lleuad lawn, ar neu ar ôl Mawrth 21. Y Pasg yw’r ŵyl bwysicaf yn y calendr Cristnogol ac mae Sul y Pasg yn dathlu Iesu’n codi o farw’n fyw dridiau ar ôl iddo gael ei ddienyddio. Diwrnod cyntaf yr Wythnos Sanctaidd yw Sul y Blodau, mae Dydd Iau Cablyd yn cofio’r Swper Olaf a Dydd Gwener y Groglith yn coffáu croeshoeliad Iesu. Bydd llawer o Gristnogion a Christnogion diwylliannol yn bwyta wyau Pasg – mae wyau yn symbol o fywyd newydd ac felly atgyfodiad Iesu. I ddarganfod mwy cliciwch yma.

Pasg Hapus oddi wrth bawb yn Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs i bawb sy’n dathlu!