Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Cronfa yw’r Ymddiriedolaeth Gymunedol Cod Post er mwyn cefnogi sefydliadau ac achosion da yng Nghymru. Mae’r grantiau’n amrywio rhwng £500 a £20,000.

Gall sefydliadau wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau neu gostau rhedeg hanfodol a chostau adnewyddu.

Yn agor ar Fehefin 1af am 24 awr.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.


Her Nadolig 2023

Yes, it’s that time of year already. Her Nadolig 2023 ac mae yn awr ar agor i geisiadau! Yr Her Nadolig yw ymgyrch ddigidol ariannu cyfatebol fwyaf y DU. Mae’r Her Nadolig yn rhoi i’ch rhoddwyr y cyfle i ddyblu eu rhoddion wrth i chi godi arian hanfodol ar gyfer eich gwaith.

Eleni bydd yn cael ei gynnal o ganol dydd ar Ddydd Mawrth Tachwedd 28ain i ganol dydd ar Ddydd Mawrth Rhagfyr 5ed.  

Y llynedd, cosodd Her Nadolig £28.6m i dros 1000 o elusennau, gan dorri pob record!

Bydd ceisidau ar gyfer ymgyrch eleni’n agor ar Ddydd Llun Mai 15fed ac yn cau ar Ddydd Gwener Gorffennaf 7fed.

I wneud cais i Her Nadolig 2023:

  1. Mewngofnodwch neu cofrestrwch i gael cyfrif   Big Give
  2. Cliciwch ar Ymgyrchoedd Big Give
  3. Cliciwch ar Gwnewch gais yn awr ar gyfer Her Nadolig 2023 pan fydd yn agor i geisiadau ar  Ddydd Llun Mai 15fed.

Y terfyn amser i geisiadau yw 5yh ar Ddydd Gwener Gorffennaf 7fed. Rydym yn annog elusennau’n gryf i gyflwyno’u ceisiadau mor gynnar â phosibl a pheidio â gadael pethau tan y funud olaf. Am fwy o wybodaeth, i weld y meini prawf cymhwyso ac i wneud cais, ewch i dudalen yr Her Nadolig ar wefan y Big Give.


Ariannu gan Ymddiriedolaeth Iechyd y Bobl
Gwahoddir grwpiau lleol a sefydliadau sydd â syniadau gwych i wneud eu cymunedau’n lleoedd hyd yn oed yn well i fyw ynddynt i wneud cais am ariannu.

Rhaglen ariannu ar gyfer grwpiau cymunedol a sefydliadau nid-er-elw, rhai ag incwm o lai na £350,000 y flwyddyn neu swm cyfartalog o £350,000 dros ddwy flynedd.

Ar hyn o bryd rydym ar agor o dan Lotri Iechyd Cymru mewn rhannau o: Flaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, Casnewydd, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.

Y terfyn amser i geisiadau fydd Dydd Mercher, Mehefin 7 am 1yh.