CYMell

Diolch i arian Llywodraeth Cymru a dderbyniwyd drwy bartneriaeth CWLWM, rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein prosiect CYMell. 

Gwyddom fod rhieni’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i ddarpariaeth gofal plant cyn ysgol, ar ôl ysgol a gofal yn ystod y gwyliau sydd wedi’i chofrestru gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) drwy gyfrwng y Gymraeg. Gwyddom hefyd fanteision mynediad i leoliadau cyfrwng Cymraeg lle gall plant chwarae a chymdeithasu gan ddefnyddio’r Gymraeg – a’i bwysigrwydd wrth gefnogi plant wrth iddynt symud drwy addysg cyfrwng Cymraeg. 

A’r sector Gofal Plant a Gwaith Chwarae yn y sefyllfa orau i gefnogi’r cynnydd yn nifer y plant sy’n defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol, gan gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae ein prosiect CYMell a’n Swyddogion Datblygu Busnes Gofal Plant Cymraeg penodedig yn anelu at : 

  • ysgogi lleoliadau Gofal Plant Allysgol cyfrwng-Cymraeg a dwyieithog anghofrestredig i ddod yn gofrestredig ag AGC. 
  • Mae llawer o wahanol glybiau a gweithgareddau ar gael i blant a rhieni ddewis ohonynt. Mae cofrestriad AGC yn cydnabod anghenion rhieni/gofalwyr sy’n gweithio/hyfforddi, gan ganiatáu hyblygrwydd i agor yn hirach ac ymestyn i ofal cyn ysgol, cofleidiol a gofal gwyliau, tra’n eu galluogi i gael mynediad at gynlluniau cymorth ariannol fel Gofal Plant Di-dreth. Mae cofrestru yn gwella eich enw da, gan ennyn yr hyder eich bod yn darparu gofal plant ysgogol o safon. 
  • Mae cyllid grant o hyd at £1,000 ar gael i gefnogi’r costau sy’n gysylltiedig â chyflwyno cais cofrestru AGC a chael cofrestriad. Bydd hefyd yn cefnogi ehangu’r ddarpariaeth Cylchoedd bresennol i gynnig gofal plant allysgol i blant hyd at 12 oed. 

Lle bo’n briodol, mae Grant Cynaliadwyedd o hyd at £2,500 ar gael i gynnal Clybiau Gofal Plant Allysgol  Cymraeg a dwyieithog sydd newydd gofrestru ag AGC 

  • hyfforddi unigolion sy’n siarad Cymraeg mewn Gwaith Chwarae, gan ddileu’r rhwystrymwysterau sy’n atal y clybiau rhag cofrestru gydag AGC, galluogi Cylchoedd i ehangu eu darpariaeth i gynnig gofal plant allysgol i blant hyd at 12 oed a chefnogi lleoliadau presennol i barhau’n gofrestredig.  

Mae cymwysterau gwaith chwarae’n gwella gwybodaeth, sgiliau a phrofiad chwarae i blant yn eich gofal. 

Mae’r hyfforddiant canlynol ar gael:

Cymhwyster  Yn Addas i Rolau Swydd 
L2App (Dyfarniad Lefel 2 mewn Arferion Gwaith Chwarae)  
  • Gweithiwr Chwarae Clwb Gwyliau  
  • Gweithiwr Chwarae os yw â chymhwyster  Lefel         2 mewn gofal plant  

 

Dyfarniad mewn Pontio i Waith Chwarae 
  • Person â Gofal  
  • Uwch Weithiwr Chwarae  

 

Diploma Lefel 2 mewn Gwaith Chwarae  
  • Gweithiwr Chwarae mewn Clwb Gofal Plant Allysgol   
Diploma Lefel 3 mewn Gwaith Chwarae  
  • Person â Gofal  
  • Uwch Weithiwr Chwarae    

 

I ddysgu mwy am y cymwysterau sydd ar gael , llenwch  Ddatganiad o Ddiddordeb , a daw aelod o’r tîm i gysylltiad â chi. 

  • darparu bwrsariaeth i gefnogi lleoliadau i dalu costau aelodau staff sy’n mynychu cymwysterau Gwaith Chwarae a ddarperir trwy gyfrwng y Gymraeg, wedi ei ariannu trwy brosiect CYMell. 

Mae’r fwrsariaeth ar gael i leoliadau sydd wedi’u cofrestru ag AGC neu sy’n dangos ymrwymiad i gofrestru, gan ganiatáu iddynt dalu costau mynychu hyfforddiant y tu allan i’w horiau gwaith neu dalu am staff i gyflenwi’r aelod hwnnw o staff os yw o fewn oriau gwaith. 

  • Cefnogi darparwyr gofal plant allysgol sy’n gofrestredig ag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) i newid iaith eu gweithrediadau i’r Gymraeg. 

Mae grant Newid Iaith Weithredol i’r Gymraeg o hyd at £4,000 ar gael i gefnogi lleoliadau cofrestredig AGC sy’n gweithio gyda’u Swyddog Datblygu Busnes Gofal Plant i newid eu hiaith weithredol i’r Gymraeg, gan ganiatáu iddynt dalu’r costau dan sylw, gan gynnwys; gweinyddu newid manylion cofrestru gydag AGC, a chyfieithu polisïau, arwyddion a marchnata. Gellir defnyddio’r grant hefyd i gefnogi cynaliadwyedd wrth iddynt farchnata eu darpariaeth yn eu hiaith newydd a hyfforddi neu recriwtio staff newydd â sgiliau iaith priodol. 

Am ragor o wybodaeth a chymorth, cysylltwch â’ch Swyddog Datblygu Busnes Gofal Plant.