Ydych chi’n hyrwyddo eich Clwb Gwyliau Hanner Tymor?

Wrth inni fwrw golwg trwy’r cyfryngau cymdeithasol a  gweld nifer o fusnesau’n hysbysebu gweithgareddau hwyliog i blant dros hanner tymor mis Hydref, ydych chi wedi bod yn hyrwyddo’r hyn sydd gennych chi i’w gynnig i’ch cymunedau chi?   

Mae ein pecyn, Marchnata Hwylus, yn cynnwys sawl post cyfrwng-cymdeithasol parod y gallwch eu haddasu er mwyn dechrau llenwi lleoedd ar gyfer hanner tymor a dangos i’ch cymuned beth sydd gennych i’w gynnig.    

 

Calan Gaea’ 

Dowch draw i’n Clwb Gwyliau yr hanner tymor hwn am lond gwlad o hwyl ar themâu Calan Gaea’ a noson tân gwyllt! 

£__ y dydd (rydym wedi ein cofrestru i gynnig Gofal Plant Di-dreth a’r Cynnig Gofal Plant – cysylltwch â ni am fwy o fanylion!) 

O __yb hyd at __yh 

Oedrannau __ i ___