Adolygiad o chwarae yng Nghymru – adroddiad i blant a phobl ifanc

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi fersiwn plant a phobl ifanc o Adroddiad grŵp llywio yr Adolygiad Gweinidogol o Gyfleoedd Chwarae.
 
Comisiynwyd Chwarae Cymru i gynhyrchu’r fersiwn yma, Adolygiad o Chwarae yng Nghymru – Yr hyn mae’n ei olygu i blant a phobl ifanc. Mae’n cynnig trosolwg o ba wahaniaeth y bydd gweithredu argymhellion yr adolygiad yn ei olygu i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
 
Mae’r fersiwn hon, sydd ar ffurf weledol gryno, yn rhestru’r hyn y gofynnodd plant a phobl ifanc amdano fel rhan o’r ymgynghoriad ac, mewn ymateb, yr hyn mae’r grŵp llywio’n gofyn i Lywodraeth Cymru ei wneud i wireddu hyn oll.  

Gweld yma