Cynhadledd a Seremoni Wobrwyo Gofal Plant All-Ysgol 2024

Cynhaliodd Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs ein 3ydd Cynhadledd a Seremoni Wobrwyo Gofal Plant All-Ysgol ar 6 Mawrth 2024. Er y byddai wedi bod yn hyfryd dathlu cyflawniadau yn bersonol, fe wnaeth y platfform ar-lein, a oedd yn ffrydio’n fyw ar Youtube,  wella hygyrchedd ac roeddem yn falch o groesawu cymaint o Glybiau Gofal Plant All-Ysgol i’n digwyddiad gyda dros 200 o ymweliadau hyd yma! Hoffem ddiolch i’n siaradwyr gwadd trwy ddarparu gwybodaeth mor addysgiadol, perthnasol a diddorol: @doctorcymraeg, Stephen Rule, Laura Williams & Natalie Vater, CREW a Keith Towler, Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Chwarae Cymru.

Dyfarnwyd deg gwobr, a chawsom lawer o enwebiadau teilwng ar eu cyfer, sy’n dangos y gwaith gwych sy’n digwydd yn y sector i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant, teuluoedd a chymunedau. Llongyfarchiadau i’r holl Weithwyr Chwarae, Gwirfoddolwyr, Rheolwyr, Pwyllgorau a Chlybiau a enwebwyd ledled Cymru a’r enillwyr. Mae wir yn fraint eich cefnogi chi a’ch clybiau.

Ein Enillwyr Gwobrau Gofal Plant All-Ysgol 2024.

 

Hyrwyddwr Iaith Gymraeg: Clwb Ol-Ysgol Gwynedd, Sir y Fflint

Clwb Gofal Plant Allysgol sydd ​wedi hyrwyddo’r Iaith Gymraeg ac wedi ymdrechu i wella lefel y ​Gymraeg sy’n cael ei​ hymgorffori yn  y Lleoliad, a chefnogi eu dysgu eu hunain ​neu ddysgu o eiddo eraill. ​

“Mae Clwb Ar Ôl Ysgol Gwynedd wedi gweithio mor galed dros y 7 mis diwethaf i sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei gweld a’i chlywed drwy’r Clwb Ôl-Ysgol. Fe wnaethant ddechrau eu taith ar wobr Addewid Efydd Cymru a bellach maent nepell i ffwrdd o gipio’u gwobr Arian.  Mae ganddynt lawer o staff sydd wedi cwblhau cwrs Camau  ac maent oll wedi dod at ei gilydd fel tîm i sicrhau bod y plant yn cael y cyfleoedd gorau drwy’r Gymraeg. Maent yn cyfuno gweithgareddau bob dydd yn y clwb â’r iaith Gymraeg ac yn sicrhau bod yr holl ddyddiadau allweddol yn cael eu dathlu. Mae ganddynt dudalen Facebook a phob rhiant â mynediad iddo, ac arno yn  wythnosol dangosir lluniau a fideos o weithgareddau a phlant yn siarad Cymraeg. Maent yn annog plant i ddysgu Cymraeg trwy chwarae ac maent bob amser a’u llygaid ar  gyfleoedd i ddatblygu’r Gymraeg yn y clwb​”


Cefnogi Llesiant Staff​: Gofal Plant Flourish Cymru Childcare, Rhondda Cynon Taf

Rheolwr, Perchennog, Arweinydd Chwarae neu Bwyllgor sydd wedi ​ymdrechu i gefnogi iechyd meddyliol a llesiant eu staff, er mwyn creu amgylchedd chwarae ​sy’n iach ac yn gadarnhaol.

“Mae Gofal Plant Flourish Cymru Gofal Plant yn gweithio’n ddiflino i sicrhau eu bod yn gofalu nid yn unig am les y plant ond hefyd lles y staff. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf maent wedi cyflogi cydlynydd Lles sy’n cadw cysylltiad a’r holl staff a phlant yn rheolaidd. Anfonir holiaduron hefyd er mwyn i bawb allu ddweud yn ddienw unrhyw beth y mae arnynt angen ei ddweud. Mae’r cydlynydd yn gweithio drwy unrhyw faterion sy’n wynebu’r staff neu’r plant ac yn gweithio ar gynllun er mwyn gallu eu helpu. Boed hynny’n anfon gwybodaeth i bobl allu cael mynediad at bethau eu hunain, trefnu sesiynau gyda hyfforddwyr, deietegwyr, naturopathwyr neu gynghorwyr ariannol, maen nhw wir yn mynd y tu hwnt i’r hyn sydd angen iddynt ei wneud. Maent yn gweithio gyda naturopathwyr i sicrhau bod y bwydlenni’n faethlon ac yn fuddiol i’r plant, yn trefnu ac yn ariannu sesiynau hyfforddi rheolaidd i reolwyr, ac yn trefnu cyfarfodydd gyda rhieni i sicrhau eu bod yn cael yr holl gymorth y mae ganddynt hawl iddo.​”


Gwirfoddolwr y Flwyddyn​: Jane Williams, Bwlchgwyn Cabin Crew, Wrecsam

Gwirfoddolwr sydd wedi ​Gweithio’n  galed ac wedi buddsoddi eu hamser eu ​hunain i gefnogi eu Clwb Gofal ​Plant Allysgol a’r gymuned.

“Mae Jane yn rhoi o’i  hamser i sicrhau bod yr  holl staff yn hapus, bod y plant yn cael amser, cefnogaeth a chyfleoedd chwarae, ac yn cyflenwi siocled a staff i’r plant yn rheolaidd.” ​


Dysgwr y Flwyddyn: Bethan Jones, Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs​

Dysgwr sydd wedi gweithio’n ​galed i gyflawni neu wneud ​cynnydd tuag at ennill ​cymhwyster gyda Clybiau Plant ​Cymru Kids’ Clubs. Gallai hyn fod wedi cynnwys ​cefnogi cymheiriaid, cyfrannu’n ​dda mewn sesiynau, gwneud y ​gorau o’r profiad dysgu, neu ​oresgyn heriau ag angerdd a ​phenderfyniad. ​

​​

“Mae’r dysgwr hwn wedi cymryd perchnogaeth lwyr o’i dysgu ac mae ar y blaen o ran ei chyflawniad. Mae’r gwaith y mae hi wedi’i gyflwyno hefyd o safon eithriadol o uchel ac yn dangos gwybodaeth ardderchog am chwarae, gwaith chwarae a’r sector. Mae ymchwil annibynnol yn glir drwy gydol ei gwaith ac mae hi hefyd wedi cysylltu â’i hymarfer gwaith chwarae ei hun,  wedi myfyrio ar sefyllfaoedd ac wedi cysylltu â’i gwaith i ddangos eto’n glir ei dealltwriaeth. Gwych gweld dysgwr mor angerddol, cydwybodol a llawn cymhelliant yn ymgysylltu â’r cymhwyster.​”


Hyrwyddwr Chwarae: Tiddlywinks, Castell-nedd Port Talbot

Clwb Gofal Plant Allysgol sydd​ wedi hyrwyddo hawl plant i  chwarae ac sydd wedi ​ymdrechu i ddarparu ​cyfleoedd chwarae o ​ansawdd da i’r plant yn eu ​gofal.​  

“Mae’n rhaid nad yw Nikita yn Tiddlywinks yn cysgu’r nos gan ei bod hi’n meddwl am syniadau newydd yn gyson. Mae Tiddlywinks yn awyddus i’r plant gymryd risgiau ac maent yn sirhau’n gyson ddiddordeb y plant a’u bod yn cael hwyl. Mae Nikita wedi trefnu llawer o ddigwyddiadau eleni ac wedi cynnwys y rhieni mewn llawer ohonynt. Mae Tiddlywinks yn rhan fawr o’r gymuned ehangach, ac yn mwynhau hynny. Yr adborth mae’r clwb yn ei gael gan y rhan fwyaf o’r rhieni yw nad ydyn nhw’n teimlo mor euog yn gweithio am fod y plant yn cael  – yn hytrach nag yn methu – cyfleoedd i chwarae.”


Gweithiwr Chwarae’r Flwyddyn: Sarah Sharpe, Poppins Day Care, Bro Morgannwg

Gweithiwr Chwarae sy’n ​ymgorffori’r gwyddorion ​Gwaith Chwarae ac sydd ​wedi mynd yr ail filltir i roi ​gwasanaeth rhagorol i ​blant, rhieni/gofalwyr a’r ​gymuned leol.​

“Mae Sarah wedi gwella’n barhaus flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae’n drawiadol ei bod, wedi cymaint o amser yn fodlon ehangu ei gwybodaeth,  ac mae’n cynnig gofal a chyfleoedd eithriadol i’r plant. “Mae fy mechgyn wrth eu bodd eu bod yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yn yr awyr agored, boed yn mynd i’r rhandir i blannu neu gasglu ffrwythau a llysiau, neu fynd ar heic gyda phecyn bwyd i weld cefn gwlad a’r cyfan y mae’n ei gynnig (hyd yn oed Llama yr haf hwn). Wn i ddim sut mae hi’n ei wneud na sut mae hi’n dod o hyd i’r amser, ond mae hi bob amser yn dod o hyd i bethau diddorol i gadw fy mechgyn yn brysur yn y gwyliau ac maen nhw’n ei charu hi a’r dyddiau pan maen nhw’n eu mynychu. Fel rhiant gallaf fynd i’r gwaith gan wybod eu bod yn ddiogel ond heb fod yn gorfod aros mewn Neuadd, wedi diflasu.”​​

“Mae Sarah yn mynd â fi i’r goedwig a gwelwn y defaid a’r gwartheg. Rwy’n hoffi peintio concyrs â mwd a neidio yn y nant. Rwyf wrth fy modd yn hel falau a chael gwymon i’w roi ar y mwd i helpu’r coed i dyfu. Mae Sarah yn ddoniol.”​


Ymrwymiad i Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus​: Dylan’s Den, Rhondda Cynon Taf

Clwb Gofal Plant Allysgol sy’n ​ymroi i annog a chefnogi ei staff i fynychu hyfforddiant a ​gweithdai i ategu at eu ​datblygiad ​proffesiynol, er mwyn cefnogi’r ddarpariaeth ofal plant o ansawdd a gynigir i’r gymuned​ leol. ​

​“Mae gan Dylan’s Den raglen hyfforddi ragorol, nid yn unig hyfforddiant hanfodol ond hyfforddiant chwarae llawn hwyl gyda’r nod o’i wneud yn lle gwell i’r plant. Mae gan bob aelod o’r staff gynllun hyfforddi, edrychir i mewn i unrhyw fynegiant o ddiddordeb ac os yn bosibl, fe’i archebir. Mae datblygiad personol y staff yn rhan bwysig o les staff yn Dylan’s Den. Mae’r rheolwyr yn annog yr holl staff i gael mynediad at hyfforddiant sy’n addas i gynnydd y staff ac anghenion y lleoliad. Rhoddir amser iddynt gwblhau’r sesiynau hyn, naill ai yn y lleoliad neu gartref os yw’r hyfforddiant ar-lein. Telir iddynt am ymgymryd a’r holl hyfforddiant boed yn ystod amser y lleoliad neu yn eu hamser personol.”​


Hyrwyddo Amrywedd Cadarnhaol​: Dylan’s Den, Rhondda Cynon Taf

Clwb All-Ysgol sydd wedi ffocysu ar greu diwylliant cyfoethog lle y gall gweithwyr, plant a theuluoedd ffynnu a dathlu eu hamrywiaethau a’u gwahaniaethau mewn ethos cynhwysol. 

“Mae Dylan’s Den yn lleoliad amlddiwylliannol sy’n derbyn plant o bob cenedl a diwylliant. Prynwyd adnoddau lluosog i ddangos cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac mae’r byrddau arddangos yn dangos gwledydd o bedwar ban byd. Chloe Adams yw’r hyrwyddwr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ac mae’n frwd dros bwysleisio pwysigrwydd hyn.​”


Hyrwyddwyr Cynhwysiant​: Child’s Play @ LTD, Abertawe

Clwb Gofal Plant Allysgol sy’n ​gweithio’n galed i roi darpariaeth ​gynhwysol ac o ansawdd, ac i gefnogi hygyrchedd i’r holl ​blant, staff a theuluoedd. ​

“Rydym yn cydnabod pwysigrwydd rhoi cyfle i blant ac oedolion ddeall eu bod yn rhan o gymdeithas amlhiliol, ac i barchu diwylliannau, ffyrdd o fyw, ieithoedd a chrefyddau heblaw eu rhai eu hunain. Er mwyn adlewyrchu ein hangerdd dros gymuned, caredigrwydd a chynhwysiant roeddem am sicrhau bod ein lleoliadau yn hygyrch i gynifer o deuluoedd â phosibl. Fel rhan o’n Polisi Cydraddoldeb a Chynhwysiant, a chan ystyried Deddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn rhoi sylw dyledus i rywedd, crefydd, tarddiad, cefndir diwylliannol ac ieithyddol plant ac unrhyw anghenion ychwanegol neu anabledd a allai effeithio arnyn nhw hwy a’u teuluoedd. Rydym wedi cael a darparu adnoddau megis llyfrau, posteri a gweithgareddau sy’n adlewyrchu amrywiaeth cymdeithas yn gadarnhaol ac yn gywir. Rydym yn ymgorffori dathliadau diwylliannol yn ein cynllunio tymhorol o weithgareddau gyda’r plant. Rydym yn ddarpariaeth gofal plant hollgynhwysol.​”


Clwb Allysgol y Flwyddyn​: Parc Borras, Wrecsam

Lleoliad sy’n ymgorffori’r ​Egwyddorion Gwaith Chwarae ac sy’n enghraifft ragorol o fudd chwarae a gofal plant o ansawdd i blant, ​teuluoedd a chymunedau. ​

“Mae clwb Parc Borras bob amser y tu allan ac ag adnoddau awyr-agored rhagorol, llawer ohonynt yn rhannau rhydd. Mae’r plant yn dewis eu gweithgareddau ac yn cefnogi ei gilydd, a’r staff yn defnyddio’r model ‘cynllunio yn y foment’. Mae yno le pwll tân a llawer o foncyffion, a defnyddiant yr amgylchedd awyr-agored yn wych. Yn eu Harolygiad AGC diweddar rhoddwyd 4 Rhagorol iddynt. Dywed rhieni, “Mae’r holl staff yn gymwynasgar iawn, yn hawdd mynd atynt ac yn gweithredu’n gyflym pan fo angen, maen nhw’n wych gyda’r plant a phob tro’n ei wneud yn hwyl.”​

“Mae plant yn hapus iawn ac yn methu aros tan mynd yno. Maen nhw’n siomedig pan fyddaf yn eu casglu oddi yno.”​

“Darperir gwasanaeth ardderchog, o’r staff i’r lleoliad.”​

“Staff ffantastig ac mor ddiogel a meithringar. Rydyn ni wrth ein bodd yn gweld ein dau blentyn yn cael hwyl yn chwarae yn yr awyr agored, yn bwydo’r ieir neu’n gweithio ar eu hoff weithgareddau crefft.”​


Rhestr o’r Gweithwyr Chwarae a raddiodd yn 2023 (Ionawr – Rhagfyr) a’r Cyflawnwyr Dysgu Cymraeg

Hoffem hefyd ddathlu ein Gweithwyr Chwarae a raddiodd yn 2023 (Ionawr – Rhagfyr) a’n cyflawnwyr Dysgu Cymraeg. Yn ystod y flwyddyn fe welsom nifer rhyfeddol o Weithwyr chwarae’n ymgysylltu â’u hyfforddiant gyda ni, ac o ganlyniad yn ffynnu yn eu rolau, wrth i’r dysgwyr wneud newidiadau ystyrlon i’w harferion er budd plant ar hyd a lled Cymru.

Dyw hi ddim yn rhy hwyr i wylio’r Gynhadledd a Seremoni Wobrwyo Gofal Plant All-Ysgol!

Cliciwch ar y ddolen  yma i wylio ar Youtube yn awr: https://www.youtube.com/watch?v=iXhz-TZJaG8