Cyfleoedd Ariannu

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym rannu â chi rai cyfleoedd am ariannu. Peidiwch ag anghofio y gallwn eich cefnogi i gwblhau ceisiadau, felly cofiwch gysylltu os oes arnoch angen ein help!


Cefnogi Trydydd Sector Cymru -Cyllido a Gwybodaeth 

Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr Cefnogi Trydydd Sector Cymru i gael y cyllid diweddaraf sydd ar gael yn ogystal â digwyddiadau. Rhwydwaith o sefydliadau cymorth ar gyfer y trydydd sector cyfan yng Nghymru yw Cefnogi Trydydd Sector Cymru. Mae’n cynnwys yr 19 o gyrff cymorth lleol a rhanbarthol ledled Cymru.

Maent hefyd wedi lansio ‘Ariannu Cymru’, y llwyfan chwilio am gyllid newydd. Dewch o hyd i gyllid ar gyfer eich elusen, grŵp cymunedol neu fenter gymdeithasol gan ddefnyddio eu peiriant chwilio ar-lein rhad ac am ddim.

Gallwch chwilio cannoedd o gyfleoedd cyllid grant a benthyciad o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. O grantiau bach i brosiectau cyfalaf mawr gall Cefnogi Trydydd Sector Cymru eich helpu i ddod o hyd i’r cyllid sydd ei angen arnoch.

Cyllido Cymru (funding.cymru)


Sefydliad Cymunedol Cymru: cronfeydd rhanbarthol yn agor ar Ebrill 15fed.

Bydd y rhanbarthau canlynol yn gallu gwneud cais am arian drwy ddefnyddio ffurflen gais newydd Sefydliad Cymunedol Cymru.

Cronfa Deddf Eglwys Cymru, Powys

Cronfeydd Sir y Fflint (Cronfa Gwaddol Cymunedol a Deddf Eglwys Cymru)

Cronfa Gwaddol Cymunedol Sir Ddinbych

Crofna Addysg Dinbych a’r Cylch

Cronfeydd Addysg Caerdydd a’r Fro

Cronfa Gwaddol Cymunedol Casnewydd

Cronfeydd Wrecsam (Cronfa Gwaddol Cymunedol a Deddf Eglwys Cymru)

Cronfa Gwaddol Cymunedol Powys

Hafan – Community Foundation Wales