16.03.2023 |
Diwrnodau Ymwybyddiaeth
Diwrnod Rhyngwladol er Dileu Camwahaniaethu Hiliol – Mawrth 21, 2023
Mae’r Diwrnod Rhyngwladol er Dileu Camwahaniaethu Hiliol yn ddiwrnod a drefnir gan y Cenhedloed Unedig; ei nod yw atal pobl rhag dioddef camwahaniaethu yn eu herbyn oherwydd eu hil.
Cewch wybod mwy yma
Diwrnod Barddoniaeth y Byd – Mawrth 21, 2023
Dathlir Diwrnod Barddoniaeth y Byd i gydnabod y gallu unigryw i greu barddoniaeth, ac i annog pobl sy’n ddigon creadigol i rannu ciplun o fywyd mewn ffordd farddonol. Y mae hefyd yn rhoi cyfle i ni ailymweld â hoff gerdd o’n plentyndod, bwrw allan atgofion diflas gwers ysgol neu fynd ati i ymchwilio gweithiau cyfredol.
Cewch wybod mwy yma
Dydd Dŵr y Byd 2023 – Mawrth 22 2023
Mae Dydd Dŵr y byd yn ddigwyddiad blynyddol â’r nod o dynnu sylw at bwysigrwydd dŵr ffres, a hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy o’r adnodd hollbwysig hwn. Mae’r diwrnod yn tynnu sylw at y ffaith bod dŵr yn hawl ddynol sylfaenol, ac yn elfen hanfodol o ddatblygu cynaliadwy.
Sut i fod yn rhan o hyn
Dyma rai ffyrdd o fod yn rhan o Ddydd Dŵr y Byd:
- Lledaenu ymwybyddiaeth: Rhannwch wybodaeth am Ddydd Dŵr y Byd a phwysigrwydd dŵr ffres â’ch teulu, eich ffrindiau a’ch cydweithwyr.
- Gwarchodwch ddŵr: Mabwysiadwch arferion arbed-dŵr, megis cymryd cawodydd byrrach, trwsio lle bydd dŵr yn gollwng, a defnyddio teclynnau dŵr-effeithlon. Mynychu digwyddiadau lleol a chymryd rhan mewn gweithgareddau megis glanhau traethau, ymgyrchoedd gwarchod dŵr ac ymgyrchoedd ymwybyddiaeth.
- Rhoddwch i achosion dŵr-berthynol: Cefnogwch sefydliadau sy’n darparu mynediad at ddŵr glân, yn hyrwyddo rheolaeth gynaliadwy o ddŵr ac yn hyrwyddo polisïau sy’n diogelu adnoddau dŵr.