26.05.2023 |
Newid i Blatfform Digidol y Cynnig Gofal Plant
Gweler isod e-bost sydd wedi mynd allan i bob darparwr yn uniongyrchol drwy’r gwasanaeth digidol.
Ers i blatfform digidol y Cynnig Gofal Plant ddod yn weithredol ym mis Ionawr 2023, ni fu’n bosibl i Warchodwyr Plant/Darparwyr Gofal Plant gyflwyno eu hamserlenni tan 19:00 pob dydd Gwener.
Rydym wedi gwrando ar adborth ac wedi newid y platfform, sydd bellach yn caniatáu cyflwyno amserlenni o ganol y dydd ymlaen bob dydd Gwener.
Y rheswm am y newid yw cynyddu’r hyblygrwydd i Warchodwyr/Darparwyr Plant.
Noder os gwelwch yn dda fod angen i’r lleoliad gadarnhau Cytundebau newydd erbyn diwedd y dydd ar ddydd Iau er mwyn hawlio oriau gofal plant am yr wythnos honno.
Mae angen i unrhyw newidiadau i oriau Cytundebau gael eu gwneud gan y lleoliad a’u cymeradwyo gan y rhiant erbyn diwedd y dydd ar ddydd Iau er mwyn i oriau gofal plant gael eu hawlio am yr wythnos honno.