21.04.2023 |
Y cyfan sydd angen i chi wybod am Ofal Plant Di-dreth gan Hempsall – gweminar ar y sylfeini i holl ddarparwyr gweithgareddau a gofal plant 6.30yh – 8.00yh Mai 3 2023
Bydd y weminar ZOOM 90-munud yma’n ddefnyddiol i bob lleoliad gofal plant a darparwyr clybiau gweithgaredd yn y DU. Dylech fynd iddi os ydych yn darparu gofal plant, yr hyn sydd gan y blynyddoedd cynnar hawl iddo, gofal neu weithgreddau cyn ac ar ôl oriau ysgol a / neu weithgareddau adeg gwyliau sy’n cael eu defnyddio gan rieni a gofalwyr i’w helpu i weithio.
Os ydych yn wasanaeth gofal plant neu weithgareddau a gymeradwyir ar gyfer plant, bydd modd i chi gefnogi rhieni drwy gofrestru, a allai helpu i hybu’ch busnes.
Mae’r weminar hon yn parhau ein gwaith o godi ymwybyddiaeth o Ofal Plant Di-dreth (GPD) ac rydym yn awyddus i gynyddu’ch dealltwriaeth o’r cynllun. Rydym wedi datblygu’r cynnwys mewn ymateb i’r cwestiynau a godwyd gan ddarparwyr yn ein gweminar gyntaf yn Chwefror 2023. Nod y weminar hon yw rhoi trosolwg o’r holl wybodaeth y mae ar ddarparwyr gofal plant angen ei gwybod i’w cefnogi i allu cofrestru a chynnig Gofal Plant Di-dreth i rieni a gofalwyr.
Mae CThEM wedi gofyn i Hempsall’s gyflenwi’r weminar gan eu bod yn sefydliad sy’n arbenigo yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant, sy’n gynnig ymgynghoriaeth, hyfforddiant a gwaith ymchwil i lywodraethau, cynghorau a darparwyr.
Bydd Hempsall’s yn:
- Darparu canllaw cam-wrth-gam i Ofal Plant Di-dreth.
- Ystyried y cyfleoedd i bob math o ddarparwyr – gan gysylltu â’r hinsawdd economaidd bresennol a’r farchnad ofal plant i gynyddu’r niferoedd
- Ystyried Gofal Plant Di-dreth o safbwynt darparwr.
- Rhoi sylw i’r pethau y gallwn oll eu gwneud i sicrhau bod teuluoedd a darparwyr gofal plant yn defnyddio ac yn elwa o’r gefnogaeth hon gan y llywodraeth.
- Eich cyfeirio at becynnau cymorth ac asedion y gellid eu defnyddio i hyrwyddo Gofal Plant Di-dreth i bawb.
Amlinelliad o’r Weminar
6.30yh Croeso, Materion Cadw-tŷ a chyflwyniad. (Hempsall’s)
6.40yh GPD – Beth yw hyn? (CThEM)
6.45yh Sut mae GPD yn gweithio gyda chynigion eraill gan y llywodraeth. (CThEM)
6.50yh GPD – cyfle i bob maeth o ddarparwyr (Hempsall’s)
7.00yh Pwy all gofrestru i gael GPD? (Hempsall’s)
7.15yh GPD – y broses. Beth sydd angen i ddarparwyr ei wybod? (Hempsall’s)
7.25yh GPD ar waith – Safbwynt darparwr..
7.40yh GPD – negeseuon y gall darparwyr eu rhannu â rhieni a gofalwyr.
7.50yh Offer ac asedion i ddarparwyr ar hyrwyddo Gofal Plant Di-dreth i gwsmeriaid (Hempsall’s)
7.55yh Crynodeb a gwerthuso
8.00yh Cau
Bwciwch yn awr i gadw’ch lle: Yma