Disgrifiad
Yn agored i bob dysgwr a lleoliad sy’n aelod fwynhau sesiwn Gwaith Chwarae Ymaraferol hwyliog ac ymgysylltiol, Dydd Sadwrn 18/05/2024 , 10.30yb – 1yh.
Dowch i rwydweithio, chwarae gemau, rhoi cynnig ar ambell i sgil Gwaith Chwarae a chael hwyl. Bydd hefyd ddigon o gyfleoedd i rannu eich arferion a myfyrio gyda gweithwyr chwarae eraill. Bydd cyfyngiad ar niferoedd, felly archebwch eich lle yn awr i osgoi cael eich siomi.
I weithwyr chwarae a gweithwyr chwarae sy’n hyfforddi, aelodau a dysgwyr fel ei gilydd, dowch i wneud rhywfaint o waith chwarae ymarferol gan rwydweithio â gweithwyr chwarae a lleoliadau eraill. Bydd yno dân gwersyll, gemau a chwarae allan gyda’r elfennau.
Os yw gofal plant yn eich rhwystro rhag mynd, rhowch wybod i ni ac fe allwch ddod â nhw gyda chi.
Meini prawf cymhwyster – Prentisiaid yn unig ac Aelodau yn unig