Cymunedau Gofal Plant Cysylltiedig

Mae ein Grant o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi ei ymestyn i 2026

Bydd ein prosiect parhad, ‘Cymunedau Gofal Plant Cysylltiedig’, a ariennir trwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn galluogi Swyddogion Datblygu Busnesau Gofal Plant Rhanbarthol o bob rhan o Gymru i  barhau i gefnogi clybiau i ddiwallu anghenion plant, teuluoedd a chymunedau ar hyd a lled y wlad.

Fel arfer, Clybiau Gofal Plant Allysgol yw hybiau cymunedau; maent yn cynnwys gofal plant drwy’r Saesneg, y  Gymraeg ac yn  ddwyieithog i helpu teuluoedd wella eu hamgylchiadau. Maent wedi’u cymell i ddatblygu a gwella, ac yn llawn angerdd dros ddarparu cyfleodd i blant chwarae a ddim ond bod gyda’i gilydd, gan wneud yn sicr eu bod yn darparu gwasanaeth o ansawdd wrth gadw’n gynaliadwy. Mae clybiau’n galluogi  rhiant/gofalwyr o 45,000 o blant ar hyd a lled Cymru i hyfforddi, gweithio a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd, trechu tlodi ac anghyfartaleddau a chefnogi’r canlyniadau gorau i blant.

Gyda’i fentora mewn sgiliau busnes, gweminarau a chynlluniau gweithredu, nod y prosiect yw sicrhau:

  1. Bod cymunedau yng Nghymru’n elwa o wasanaethau o ansawdd.
  2. Y bydd clybiau â llywodraethiad cryf a chadarn.
  3. Sector cynaliadwy yng Nghymru, sy’n cefnogi plant i chwarae a theuluoedd a chymunedau i ffynnu.

Ni allwn ddiolch ddigon i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am gefnogi cais parhad Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs i gynorthwyo’r sector Clybiau Gofal Plant All-Ysgol ar hyd a lled Cymru.

Cymerwch gipolwg ar rai o’n llwyddiannau isod.

 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â’n Swyddfeydd Rhanbarthol:

Swyddfa Caerdydd: 029 2074 1000 / info@clybiauplantcymru.org

Swyddfa  Bae Colwyn: 01492 536318 / info-nw@clybiauplantcymru.org

Swyddfa Cross Hands: 01269 831010 / info-ww@clybiauplantcymru.org

 


 

Cysylltu a Chefnogi Clybiau a Chymunedau Allysgol 2020-2023

Trwy ein Prosiect a ariannwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ‘Cysylltu a Chefnogi Clybiau a Chymunedau Allysgol’, gweithiodd 3 Swyddog Datblygu Busnesau Gofal Plant Rhanbarthol gyda’n Cymuned Ofal Plant Allysgol i gyflawni’r canlynol:

  • 98 cynllun gweithredu unigol wedi eu hadeiladu are u cryfderau;
  • 2003 sesiwn sgiliau busnes, gwell llywodraethiad a sgiliau busnes;
  • 45 cofrestriad ag Arolygiaeth Gofal Cymru ac yna’r Cynnig Gofal Plant / Gofal Plant Di-dreth, a gwell ansawdd a fforddiadwyedd;
  • 44  digwyddiad rhwydwaith a chydweithio ag eraill i gefnogi’r sector.

 


 

Astudiaethau achos :

 


 

Dywedodd Jane O’Toole, Prif Swyddog Gweithredol Clybiau Plant Cymru Kids’ Clubs:

“Hoffem ddiolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am y dyfarniad grant, ac wrth gwrs rhai diolch i’r cyhoedd sy’n chwarae’r Loteri bob wythnos; ni fyddai’r ariannu, ac felly’r prosiect wedi bod yn bosibl.

Trwy’r prosiect hwn ceisiwn gefnogi clybiau ag ymweliadau wyneb yn wyneb a mentora mewn sgiliau busnes; gwella ansawdd chwarae a gofal mewn Clybiau Gofal Plant Allysgol drwy uwchsgilio Gweithwyr Chwarae a Rheolwyr; rhoi gwell mynediad i ddarpariaethau gofal a chwarae, gyda chlybiau wedi’u cofrestru â chynlluniau’r Llywodraeth; gwella fforddiadwyedd a darparu gofal plant a fydd, yn gyffredinol, yn fwy cynaliadwy  â llywodraethiad da, ac a fydd yn rhoi parhad i’r gofal am blant.”

 

Adroddiad Blwyddyn 3 People & Places 
Gwybodaeth am y Prosiect

 


Cysylltwch â’n Swyddfeydd Rhanbarthol â’ch awgrymiadau ar gyfer digwyddiadau rhwydweithio yr hoffech eu mynychu, neu os hoffech wybodaeth ychwanegol. 

Swyddfa Caerdydd: 029 2074 1000 / info@clybiauplantcymru.org    

Swyddfa Bae Colwyn: 01492 536318 / info-nw@clybiauplantcymru.org    

Swyddfa Cross Hands: 01269 831010 / info-ww@clybiauplantcymru.org    

www.clybiauplantcymru.org 

www.facebook.com/clybiau